Josua 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau.

2A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau.

3Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades-barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.

4Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.

5A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.

6A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth-hogla, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth-araba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.

7A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En-rogel.

8A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd.

9A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath-jearim.

10A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timna.

11A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

12A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

13Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Josua; sef Caer-arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

14A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.

15Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer.

16A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.

17Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.

18A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

19A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

20Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

21A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,

22Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,

23Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,

24A Siff, a Thelem, a Bealoth,

25A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,

26Ac Amam, a Sema, a Molada,

27A Hasar-gada, a Hesmon, a Beth-palet,

28A Hasar-sual, a Beer-seba, a Bisiothia,

29Baala, ac Iim, ac Asem,

30Ac Eltolad, a Chesil, a Horma,

31A Siclag, a Madmanna, a Sansanna,

32A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd.

33Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna,

34A Sanoa, ac En-gannim, Tappua, ac Enam,

35Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca,

36A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

37Senan, a Hadasa, a Migdal-gad,

38A Dilean, a Mispe, a Joctheel,

39Lachis, a Boscath, ac Eglon,

40Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,

41A Gederoth, Beth-dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

42Libna, ac Ether, ac Asan,

43A Jiffta, ac Asna, a Nesib,

44Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.

45Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:

46O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd:

47Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.

48Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Socho,

49A Danna, a Ciriath-sannath, honno yw Debir,

50Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,

51A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.

52Arab, a Duma, ac Esean,

53A Janum, a Beth-tappua, ac Affeca,

54A Humta, a Chaer-arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd.

55Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,

56A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,

57Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

58Halhul, Beth-sur, a Gedor,

59A Maarath, a Beth-anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

60Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pentrefydd.

61Yn yr anialwch; Beth-araba, Midin, a Sechacha,

62A Nibsan, a dinas yr halen, ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

63Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help