1Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd.
2Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.
3Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd.
4Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi:
6Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd;
7I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.
8Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig.
9Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.
10Cenwch i’r ARGLWYDD gân newydd, a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion.
11Y diffeithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.
12Rhoddant ogoniant i’r ARGLWYDD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.
13Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion.
14Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.
15Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf.
16Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
17Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.
18O fyddariaid, gwrandewch; a’r deillion, edrychwch i weled.
19Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â’r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD?
20Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy.
21Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.
22Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.
23Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?
24Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith.
25Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.