1Dyrchafaf di, fy NUW, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
2Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd.
3Mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
5Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
6Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
7Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.
8Graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
9Daionus yw yr ARGLWYDD i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
10Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O ARGLWYDD; a’th saint a’th fendithiant.
11Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
12I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
13Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
14Yr ARGLWYDD sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
15Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
16Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
17Cyfiawn yw yr ARGLWYDD yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
19Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
20Yr ARGLWYDD sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
21Traetha fy ngenau foliant yr ARGLWYDD: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
