Eseciel 25 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt;

3A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud:

4Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o’th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth.

5Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

6Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â’th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;

7Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a’th ddifethaf o’r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.

8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd:

9Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth-jesimoth, Baal-meon, a Ciriathaim,

10I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.

11Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt;

13Am hynny, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.

14A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i’w dinistrio am yr hen gas;

16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr.

17A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf fy nialedd arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help