Ecclesiasticus (Sirach) 37 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 37

1Pob cydymaith a ddywed, Da gennyf finnau ef; eithr y mae cydymaith mewn enw yn unig.

2Onid tristwch hyd angau ydyw, pan dro cyfaill neu gydymaith i fod yn elyn?

3O feddwl drygionus, o ba le yr ymdreiglaist ti, i orchuddio’r ddaear â thwyll?

4Rhyw gyfaill a wna yn llawen gyda’i gydymaith yn ei lawenydd; ac a fydd yn ei erbyn ef yn amser adfyd.

5Rhyw gyfaill a gymer boen gyda’i gydymaith er mwyn ei fol, ac a gymer darian yn erbyn y gelyn.

6Nac anghofia dy gydymaith yn dy feddwl, ac na fydd anghofus amdano pan fyddech yn gyfoethog.

7Pob cynghorwr a genmyl ei gyngor: ac y mae a gynghora er budd iddo ei hun.

8Gwylia gynghorwr, a myn wybod yn gyntaf pa raid fydd wrtho ef, (oblegid y mae efe yn cynghori trosto ei hun,) rhag iddo fwrw y coelbren arnat ti,

9A dywedyd wrthyt, Da yw dy ffordd; ac yna sefyll o’r tu arall, i edrych beth a ddigwyddo i ti.

10Nac ymgynghora â’r neb a’th amheuo di: a chêl dy gyfrinach oddi wrth y rhai a genfigennant wrthyt.

11Nac ymgynghora â gwraig, am yr hon y mae hi yn dal eiddigedd wrthi; nac â’r llwfr am ryfel; nac â’r marchnadwr am gyfnewid; nac â’r prynwr am werthu; nac â’r cenfigennus am ddiolchgarwch; nac â’r anhrugarog am gymwynas; nac â’r diog am ddim gwaith; nac â’r gwas a gyfloger dros flwyddyn, am orffen peth; nac â gwas diog am lawer o waith: na wrando ar y rhai hyn am ddim cyngor.

12Eithr bydd yn wastad gyda gŵr duwiol, yr hwn a wyddost ti ei fod yn cadw gorchmynion yr Arglwydd, yr hwn y byddo ei feddwl fel dy feddwl dithau; yr hwn, os tramgwyddi di, a gydofidia â thi.

13Safed cyngor dy galon dy hun: oblegid nid oes neb ffyddlonach i ti na honno.

14Canys y mae meddwl dyn yn arfer weithiau o fynegi mwy na saith o wylwyr yn eistedd mewn tŵr gwylio uchel.

15Ac o flaen hyn oll, gweddïa ar y Goruchaf ar iddo gyfarwyddo dy ffordd di mewn gwirionedd.

16Cyn dechrau pob gwaith bydded rheswm; ac o flaen pob gweithred aed cyngor.

17Arwydd newidiad llawenydd yw’r wyneb.

18Pedwar math ar beth sydd yn ymddangos; da, a drwg; einioes, ac angau: a’r tafod sydd yn llywodraethu yn wastad arnynt hwy.

19Y mae un call, ac yn dysgu llawer eraill, ac eto yn anfuddiol i’w enaid ei hun.

20Y mae un yn ddoeth ar eiriau, ac eto yn atgas: gan hwnnw nid oes dim doethineb:

21Oblegid ni roddes yr Arglwydd ras iddo ef; canys efe a adawyd heb bob doethineb.

22Rhyw un sy gall i’w enaid ei hun; a ffrwythau deall sy ganmoladwy yn ei enau ef.

23Gŵr doeth a ddysg ei bobl; a ffrwythau ei ddeall ef sydd sicr.

24Gŵr doeth a gaiff ddigon o fendith; a’r rhai oll a’i gwelant ef, a’i cyfrifant yn hapus.

25Dyddiau oes gŵr sydd wrth rifedi; a dyddiau Israel sydd annifeiriol.

26Y doeth a etifedda ogoniant ymysg ei bobl; a’i enw a fydd byth.

27Fy mab, prawf dy enaid tra fyddech byw; gwêl yr hyn sy ddrwg iddo, ac na ddod iddo.

28Nid yw pob peth yn fuddiol i bawb; ac nid yw pob enaid yn hoff ganddo bob peth.

29Na fydd annigonol o ddim dantaith, ac na ruthra i fwyd.

30O lawer o fwydydd y daw clefyd; a gormodedd a dry fel geri.

31Trwy ormodedd y bu feirw llawer; ond yr hwn a ymgeidw a estyn ei hoedl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help