Y Salmau 69 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 69I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.

1Achub fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.

2Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.

3Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW.

4Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.

5O DDUW, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.

6Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel.

7Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.

8Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.

9Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.

10Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.

11Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.

12Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.

13Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.

14Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.

15Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.

16Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

17Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.

18Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.

19Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.

21Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.

22Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.

23Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.

24Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.

26Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.

27Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.

28Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.

29Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo.

30Moliannaf enw DUW ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.

31A hyn fydd well gan yr ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol.

32Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd byw.

33Canys gwrendy yr ARGLWYDD ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.

34Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.

35Canys DUW a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.

36A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help