1Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.
2Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.
3Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
4Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd.
5Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.
6Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.
7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.
8Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.
9Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.
10Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd.
11Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.
12Llygaid yr ARGLWYDD a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.
13Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd.
14Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr ARGLWYDD yn ddig wrtho, a syrth yno.
15Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho.
16Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.
17Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.
18Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.
19Fel y byddo dy obaith yn yr ARGLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.
20Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,
21I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonant atat?
22Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.
23Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.
24Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:
25Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i’th enaid.
26Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo, o’r rhai a fachnïant am ddyled.
27Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?
28Na symud mo’r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.
29A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
