1Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
2Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m DUW: canys arnat y gweddïaf.
3Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
4Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.
6Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.
7A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.
9Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod.
10Distrywia hwynt, O DDUW; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn.
11Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
12Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
