1Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.
2Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.
3Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.
4Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad.
5Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.
6Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.
7Fel yr amlhasant, felly y pechasant i’m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.
8Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.
9A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.
10Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
11Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.
12Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu DUW.
13Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas.
14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.
15Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.
16Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder.
17Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.
18Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.
19Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
