1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog;
3Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:
4Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,
5Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i piau.
6A dyged i’r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
8Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
9Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.)
10Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef gerllaw yr allor.
11A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân.
12A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.
13Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14Dyma hefyd gyfraith y bwyd-offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr ARGLWYDD, o flaen yr allor:
15A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd-offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd-offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
16A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
17Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.
18Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr ARGLWYDD; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
20Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymant i’r ARGLWYDD, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brynhawn.
21Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd-offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
22A’r offeiriad o’i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i’r ARGLWYDD.
23A phob bwyd-offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.
24Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr ARGLWYDD: sancteiddiolaf yw efe.
26Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod, a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.
27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
28A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.
29Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.
30Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.