Y Salmau 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 1

1Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.

2Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

3Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda.

4Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.

5Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn.

6Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help