1Molwch yr ARGLWYDD. Gweision yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.
2Bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd.
3O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.
4Uchel yw yr ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
5Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein DUW ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
6Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
7Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
8I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.
9Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
