1O angau, mor chwerw yw meddwl amdanat ti i’r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sy ganddo; i’r gŵr a fyddo dihelbul, ac yn llwyddiannus ym mhob peth; ac i’r hwn a ddichon eto gymryd ei fwyd!
2O angau, mor dda yw dy farn di i’r anghenus, ac i’r gwan; i’r hen ddihenydd, ac i’r hwn sydd yn flin arno am bob peth; ac i’r anobeithiol, ac i’r annioddefgar!
3Nac ofna farn angau: cofia y rhai a fu o’th flaen, ac a fydd ar dy ôl di: dyma farn yr Arglwydd ar bob cnawd.
4Paham y gwrthwynebi di ewyllys y Goruchaf? pa un bynnag ai deg, ai cant, ai mil o flynyddoedd y buost ti fyw, nid oes gyfrif yn y bedd.
5Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid; felly y mae y rhai sydd yn byw yn nhrigfâu yr annuwiol.
6Etifeddiaeth plant yr annuwiol a ddifethir; a chyda’u hiliogaeth hwynt yr erys gwaradwydd yn wastad.
7Rhag tad annuwiol yr achwyn y plant; oblegid hwy a waradwyddir o’i achos ef.
8Gwae chwi, wŷr annuwiol, y rhai a adawsoch gyfraith y Duw goruchaf! oblegid er eich amlhau, chwi a ddifethir;
9A phan aner chwi, chwi a enir i felltith; ac os meirw fyddwch, rhoddir i chwi felltith yn rhan.
10Pob peth a â i’r ddaear, a ddelo o’r ddaear: felly yr â yr annuwiol o felltith i ddistryw.
11Galar dynion fydd am eu cyrff, ond enw drwg dynion a ddileir.
12Bydd ofalus am enw da: canys hwnnw a erys gyda thi yn hwy na mil o drysorau mawrion o aur.
13Buchedd dda a gaiff nifer o ddyddiau; ond enw da a bery byth.
14Fy meibion, cedwch addysg mewn heddwch: canys doethineb wedi ei chuddio, a thrysor heb ei weled, pa fudd sydd o’r ddau?
15Gwell yw’r dyn a guddio ei ffolineb, na’r dyn a guddio ei ddoethineb.
16Gwladeiddia gan hynny yn ôl fy ngair i: oblegid nid da yw cadw pob gwladeidd-dra, ac nid yw gwbl gymeradwy ym mhob peth.
17Cywilyddiwch yng ngŵydd tad a mam am odineb, ac yng ngŵydd tywysog neu bendefig am gelwydd,
18Am fai o flaen yr ynad a’r tywysog, am anwiredd yng ngŵydd y gynulleidfa a’r bobl, am anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill;
19Felly am ladrad oherwydd y lle y byddech yn aros ynddo, ac oherwydd gwirionedd Duw a’i gyfamod; ac am roddi dy benelin ar y bara, a phan y’th gerydder am roddi a derbyn;
20Yr un modd am dewi wrth y rhai a’th gyfarchant, ac am edrych ar wraig buteinig;
21Ac am droi dy wyneb oddi wrth dy gâr, am ddwyn rhodd neu ran, ac am ddal sylw ar wraig gŵr arall;
22Neu am arfer maswedd â morwyn un arall, ac na thyred yn agos at ei gwely hi; bydded gywilydd gennyt edliw gerbron cydymaith; ac na ddannod wedi rhoddi;
23Ac am adrodd drachefn yr hyn a glywech, a datguddio cyfrinach.
24Felly y byddi gywilyddgar, ac y cei di ffafr gan bob dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
