Esther (Y Rhan Arall) 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

Rhan o’r ddegfed bennod yn ôl y Groeg.

4Yna y dywedodd Mardocheus, Duw a wnaeth hyn;

5Canys cof yw gennyf y breuddwyd a welais am y pethau hyn: oblegid ni phallodd dim o hynny.

6Ffynnon fechan a aeth yn afon; ac yr oedd goleuni, a haul, a dwfr mawr. Esther yr hon a briododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines, yw’r afon;

7A’r ddwy ddraig ydwyf finnau, ac Aman.

8A’r cenhedloedd oedd y rhai a ddaethant i ddifetha enw’r Iddewon.

9A’m cenedl i yw’r Israel yma, y rhai a floeddiasant ar yr Arglwydd, a hwy a achubwyd: ie, yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a’r Arglwydd a’n gwaredodd ni o’r drygau hyn oll; a Duw a wnaeth arwyddion a gwyrthiau mawrion, y rhai ni wnaethpwyd ymysg y cenhedloedd.

10Am hynny y gwnaeth efe ddau goelbren, un i bobl Dduw, a’r llall i’r cenhedloedd oll.

11A’r ddau goelbren hyn a ddaethant gerbron Duw, dros yr holl genhedloedd, erbyn awr, ac amser, a dydd barn.

12Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfiawnhaodd ei etifeddiaeth.

13Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mis Adar, ar y pedwerydd dydd ar ddeg a’r pymthegfed o’r mis, gydag ymgyfarfod, a llawenydd, a hyfrydwch gerbron Duw, ymysg ei bobl ef byth dros bob oes.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help