2 Timotheus 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu,

2At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd.

3Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd;

4Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd;

5Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd.

6Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.

7Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.

8Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw;

9Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd,

10Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl:

11I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd.

12Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.

13Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.

14Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

15Ti a wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.

16Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i:

17Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd.

18Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help