Diarhebion 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.

2Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.

3Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.

4Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.

5Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.

6Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.

7Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.

8Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.

9Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

10Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.

11Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.

12Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

13Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.

14Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.

15Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.

16Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.

17Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.

18Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn.

19Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon.

20Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt.

21Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.

23Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.

25Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

26Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

27Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?

28Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.

29Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.

30Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.

31Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help