1Yn y ganfed a’r nawfed flwyddyn a deugain y daeth y gair at Jwdas, fod Antiochus Eupator yn dyfod â gallu mawr i Jwdea;
2A chydag ef Lysias ei oruchwyliwr, a llywydd yn ei faterion, a chan bob un ohonynt yn ei lu o’r Groegwyr gant a dengmil o wŷr traed, a phum mil o wŷr meirch, a dau eliffant ar hugain, a thri chant o gerbydau bachog.
3Ac fe ymgysylltodd atynt Menelaus hefyd, a thrwy fawr watwar a gynghorodd Antiochus, nid er diogelwch i’r wlad, ond oherwydd iddo feddwl cael bod ei hun yn benadur.
4Ond Brenin y brenhinoedd a gynhyrfodd feddwl Antiochus yn erbyn y gŵr ysgeler hwn: a phan ddangosodd Lysias i’r brenin mai hwn oedd achos yr holl ddrygioni, efe a orchmynnodd, fel yr oedd yr arfer yn y lle hwnnw, ei ddwyn ef i Berea, a’i ddifetha ef.
5Y mae hefyd yn y lle hwnnw dŵr o ddeg cufydd a deugain o uchder, yn llawn o ludw, yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn crwn, o bob tu yn llithro i lawr ar y lludw.
6Yno y gyrrai pawb i farwolaeth y neb a fernid yn euog o gysegr-ladrad, a’r neb a wnaethai weithredoedd drwg eraill.
7O’r farwolaeth yma y digwyddodd i’r gŵr annuwiol hwnnw farw, heb gael cymaint â daear i’w gorff, a hynny yn wir gyfiawn:
8Canys yn gymaint ag iddo ef wneuthur llawer o bechodau ynghylch yr allor oedd â’i thân a’i lludw yn sanctaidd, efe a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.
9Yr awron y brenin a ddaeth â meddwl gwyllt a balch, i wneuthur rhyw ddialedd ar yr Iddewon, yr hwn nis gwnaethid erioed yn amser ei dad.
10Ond pan wybu Jwdas hynny, efe a orchmynnodd i’r lliaws alw ar yr Arglwydd ddydd a nos, os helpiasai ef hwynt amser arall erioed, ar iddo yn awr helpio y rhai oedd debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad, a’u teml sanctaidd;
11Ac na adawai efe y bobl a gawsent yr awron ychydig lonyddwch, i’w darostwng i’r Cenhedloedd cablgar
12Ac wedi i bawb ohonynt gydwneuthur yr un peth, ac ymbil â’r Arglwydd trugarog trwy wylofain ac ympryd, dan orwedd ar y llawr dri diwrnod yn ddi-baid, Jwdas a’u cynghorodd hwy, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod.
13Ac fel yr oedd efe gyda’r henuriaid o’r neilltu, efe a fwriadodd, cyn i lu y brenin ruthro i Jwdea, a chael meddiannu y ddinas, fyned ohonynt hwy allan, a phrofi y materion mewn ymdrech trwy help yr Arglwydd.
14Felly gan orchymyn y cwbl i Greawdwr y byd, efe a gynghorodd i’r neb oedd gydag ef ymladd yn rymus, hyd farwolaeth, yng nghweryl eu cyfreithiau, eu teml, eu gwlad, a’u cyfoeth cyffredin, ac a wersyllodd wrth Modin.
15Yna wedi rhoddi ohono ef i’w ryfelwyr yn arwydd, Goruchafiaeth sydd o Dduw; gyda’r gwŷr ieuainc gwrolaf a dewisol, efe a aeth liw nos i babell y brenin, ac a laddodd yn y gwersyll ynghylch dwy fil o wŷr, a’r pennaf o’r eliffantiaid, a’r hyn oll oedd arno ef.
16Ac o’r diwedd hwy a lanwasant yr holl wersyll ag ofn a thrallod, ac a ymadawsant yn llwyddiannus.
17Hyn a wnaethpwyd ar y boreddydd, am fod amddiffyn yr Arglwydd yn ei gynorthwyo ef.
18Yr awron pan gafodd y brenin brawf o hyfder yr Iddewon, efe a aeth ynghylch ennill yr amddiffynfeydd trwy gyfrwystra;
19Ac a aeth i Bethsura, amddiffynfa gadarn yr Iddewon; ond efe a yrrwyd i ffoi, a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.
20Canys Jwdas a ddanfonasai i’r rhai oedd ynddi y cyfryw bethau ag oedd angenrheidiol.
21Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon, a ddatguddiodd y cyfrinachau i’r gelynion: am hynny hwy a chwiliasant amdano; a phan gawsant ef, hwy a’i rhoesant yng ngharchar.
22Y brenin a ymddiddanodd yr ail waith â hwynt yn Bethsura, a roes ei law ei hun, a gymerth eu rhai hwythau, a aeth ymaith, a ymladdodd â Jwdas, a orchfygwyd;
23A phan wybu wrthryfela o Philip, yr hwn a adawsid ar y materion yn Antiochia, efe a gywilyddiodd, a ymbiliodd â’r Iddewon, a ymostyngodd, a dyngodd iddynt ym mhob peth cyfiawn, a dangnefeddodd, a offrymodd aberth, a anrhydeddodd y deml, ac a fu gymwynasgar i’r lle,
24Ac a gofleidiodd Macabeus, a’i gwnaeth ef yn llywodraethwr pennaf ar Ptolemais hyd y Gerrheniaid,
25A ddaeth i Ptolemais. Yr oedd yn anfodlon gan bobl Ptolemais yr amodau; canys hwy a ffromasant oherwydd eu bod hwy yn chwennych torri eu hamodau.
26Lysias a aeth i fyny i’r orseddfa, a amddiffynnodd y weithred yn drefnus, a’u henillodd, a’u llonyddodd, a’u gwnaeth hwynt yn ewyllysgar, a ddychwelodd i Antiochia. Fel hyn y damweiniodd taith y brenin a’i ddychweliad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.