Job 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,

2Y mae DUW yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a’r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;

3Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd DUW yn fy ffroenau;

4Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll.

5Na ato DUW i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.

6Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.

7Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.

8Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno DUW ei enaid ef allan?

9A wrendy DUW ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?

10A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar DDUW bob amser?

11Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law DUW: ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog.

12Wele, chwychwi oll a’i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?

13Dyma ran dyn annuwiol gyda DUW; ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog.

14Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i’r cleddyf: a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.

15Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a’i wragedd gweddwon nid wylant.

16Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai;

17Efe a’i darpara, ond y cyfiawn a’i gwisg: a’r diniwed a gyfranna yr arian.

18Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr.

19Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.

20Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos.

21Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le.

22Canys DUW a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef.

23Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help