Exodus 34 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.

2A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.

3Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

4Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5A’r ARGLWYDD a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr ARGLWYDD.

6A’r ARGLWYDD a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y DUW trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;

7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.

8A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd;

9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.

10Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr ARGLWYDD: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

11Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.

12A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

13Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr ARGLWYDD, Eiddigus yw ei enw; DUW eiddigus yw efe;

15Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwyta o’u haberth;

16A chymryd ohonot o’u merched i’th feibion; a phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt.

17Na wna i ti dduwiau tawdd.

18Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aifft.

19Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.

20Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.

21Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.

22Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.

23Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel.

24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, dair gwaith yn y flwyddyn.

25Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.

26Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

27Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel.

28Ac efe a fu yno gyda’r ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod, sef y deg gair.

29A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.

30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef.

31A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD ym mynydd Sinai.

33Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb.

34A phan ddelai Moses gerbron yr ARGLWYDD i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo.

35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help