1Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati.
2Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith.
3Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn.
4Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi:
6Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt.
7Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.
8Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;
9Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.
10Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith.
11Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:
12Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;
13O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef.
14Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.
15Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen,
16Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau;
17A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach.
18A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.
19Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu,
20Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef;
21A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:
22Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.
23Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi-sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;)
24A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
25Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
26Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach;
27Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr.
28Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:
29Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?
30Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw.
32Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:
33Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly.
34Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.
35Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr.
36Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.
39Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.