1Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
2Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni.
3Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.
4A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.
5Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.
6Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.
7A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg.
9A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell-len.
10A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.
11A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma’r babell-len, fel y byddo yn un.
12A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell-len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl;
13Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hyd y babell-len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu acw, i’w orchuddio.
14A gwna do i’r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
15A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.
16Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.
17Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl.
18A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau.
19A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.
20A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, ugain ystyllen,
21A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl, yn y ddau ystlys.
24A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant.
25A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,
27A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin.
28A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.
29Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.
32A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf.
34Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.
35A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du’r gogledd.
36A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith.
37A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.