1A’i dad ef Tobit a gyfrifai bob dydd. Ac wedi cyflawni dyddiau’r daith, a hwythau heb ddyfod adref,
2Yna y dywedodd Tobit, A siomwyd hwynt? ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi’r arian iddo?
3Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.
4A’i wraig a ddywedodd wrtho, Darfu am y bachgen: ac am ei fod ef yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd alaru amdano, gan ddywedyd,
5Nid oes gennyf ofal am ddim, fy mab, gan i mi dy ollwng di ymaith, llewyrch fy llygaid i.
6Eithr Tobit a ddywedodd wrthi, Taw sôn, ac na ofala ddim; y mae efe yn iach lawen.
7A hithau a ddywedodd wrtho, Taw â sôn, na huda fi; darfu am fy machgen i. A beunydd yr âi hi allan i’r ffordd yr aethent hwy: y dydd ni fwytâi hi mo’r bwyd, a’r nos ni pheidiai ag wylo am Tobeias ei mab: a hyn nes darfod pedwar diwrnod ar ddeg y neithior, y rhai y tyngasai Raguel y gorfyddai i Tobeias aros yno. Yna y dywedodd Tobeias wrth Raguel, Gollwng fi ymaith: canys nid yw fy nhad a’m mam yn edrych am fy ngweled byth.
8A’i chwegrwn a ddywedodd wrtho, Aros gyda myfi, a mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i’th dad.
9Eithr Tobeias a ddywedodd, Nage ddim; ond gollwng fi at fy nhad.
10Yna y cyfododd Raguel i fyny, ac a roddes Sara ei wraig iddo, a hanner ei dda, sef gweision, ac anifeiliaid, a da bathol:
11Ac wedi iddo eu bendithio, efe a’u danfonodd ymaith, gan ddywedyd, O fy mhlant, Duw nef a’ch llwyddo.
12Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, Anrhydedda dy chwegrwn a’th chwegr, canys hwynt-hwy bellach sy dad a mam i ti: gad i mi glywed gair da amdanat: ac efe a’i cusanodd hi. Edna hefyd a ddywedodd wrth Tobeias, Fy annwyl frawd, Arglwydd y nef a’th ddygo drachefn, ac a wnêl i mi weled dy blant di o’m merch Sara cyn fy marw, fel y llawenychwyf gerbron yr Arglwydd: ac wele, yr ydwyf yn rhoddi fy merch i ti mewn ymddiried; na ofidia hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
