1Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
2Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.
3Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.
4Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.
5Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan.
6Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?
7Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.
8Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg.
9Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?
10Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o’r ddau.
11Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.
12Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o’r ddau.
13Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara.
14Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia.
15Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.
16Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.
17Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean.
18Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.
19Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.
20Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.
21Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.
22Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac efe a’th achub.
23Ffiaidd gan yr ARGLWYDD amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.
24Oddi wrth yr ARGLWYDD y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun?
25Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.
26Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.
27Cannwyll yr ARGLWYDD yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.
28Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.
29Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.
30Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
