Ecclesiasticus (Sirach) 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 31

1Gwylio am olud a wna i’r cnawd ddihoeni; a gofal amdano a luddia gwsg.

2Gofalus wylio a lestair hepian; a chlefyd trwm a dyr gwsg.

3Y goludog sydd yn cymryd poen yn casglu cyfoeth; ac yn ei esmwythdra efe a lenwir â’i ddanteithion.

4Y mae’r tlawd yn cymryd poen yn ei dlodi; a phan beidio, tlawd yw efe.

5Ni chyfrifir yn gyfiawn yr hwn a hoffo aur; a’r hwn a ddilyno lygredigaeth a gaiff ei wala ohono.

6Llawer a ddifethwyd o achos aur; ac o’u blaen yr oedd eu dinistr.

7Pren tramgwydd yw efe i’r rhai a aberthant iddo; ac wrtho ef y delir pob angall.

8Gwyn ei fyd y goludog a geir yn ddifai, ac nid aeth ar ôl aur.

9Pwy yw efe? a nyni a’i galwn ef yn hapus: canys pethau rhyfedd a wnaeth efe ymysg ei bobl.

10Pwy a brofwyd trwy yr aur hwn, ac a gafwyd yn berffaith? ac efe a gaiff fod yn orfoleddus: pwy a allodd bechu, ac ni phechodd? ac a allodd wneuthur drygioni, ac nis gwnaeth?

11Am hynny y sicrheir ei dda ef; a’r gynulleidfa a fynega ei elusennau ef.

12Pan eisteddych di ar fwrdd helaeth, na rytha dy geg arno, ac na ddywed, Mae llawer o fwyd arno.

13Cofia mai peth drwg yw drwglygad: a pha beth a wnaed waeth na llygad? am hynny yr wyla efe wrth bob achlysur.

14Nac estyn dy law i bob lle yr edrycho efe, ac na wthia hi gydag ef i’r ddysgl.

15Barna dy gymydog wrthyt dy hun; a bydd bwyllog ym mhob peth.

16Bwyta fel dyn yr hyn a osoder o’th flaen; ac na fydd wancus, rhag dy gasáu.

17Paid yn gyntaf, oherwydd medrusrwydd; ac na fydd annigonol, rhag gweled bai arnat.

18Pan eisteddych ymysg llawer, nac estyn dy law yn gyntaf.

19Digon yw ychydig iawn i’r medrus; ac ni bydd yn fyr ei anadl ar ei wely.

20Cysgu yn iachus a gaiff yr hwn a fwytao yn gymesurol: efe a gyfyd yn fore â’i synnwyr ganddo: eithr y gŵr ni ddigoner a gaiff boen, anhunedd, a geri, a chnofeydd y bol.

21Ac os gorfu arnat mewn gwledd fwyta, cyfod o’r canol, bwrw, ac ymesmwythâ.

22Clyw fi, fy mab, ac na ddiystyra fi, ac yn y diwedd ti a gei fy ngeiriau i yn wir. Yn dy holl waith bydd esgud, ac ni ddigwydd un clefyd i ti.

23Gwefusau llawer a fendithiant yr hael o’i fara; a chredadwy fydd tystiolaeth am ei ddaioni ef.

24Yr holl ddinas a rwgnach yn erbyn yr anhael o’i fara; a thystiolaeth am ei ddrygioni ef nid amheuir.

25Na ddangos dy wroldeb mewn gwin: canys gwin a ddifethodd lawer.

26Y ffwrn a brawf y min wrth ei drochi; felly y gwna gwin galon y beilchion wrth feddwdod.

27Gwin sy gystal â bywyd i ddyn, os yfir ef yn gymesurol: pa fywyd gan hynny sydd i’r dyn sy heb win? canys i lawenychu dynion y crewyd ef.

28Llawenydd calon, a hyfrydwch meddwl, yw’r gwin a yfer mewn pryd, yn gymesurol:

29Eithr gwin, pan yfer gormod ohono, a bair chwerwder meddwl, ymgecraeth, a chynhennu.

30Meddwdod yr angall a chwanega ddig, oni thramgwyddo; a wanha gryfder, ac a bair archollion.

31Na cherydda dy gymydog wrth yfed gwin, ac na ddirmyga ef pan fyddo llawen: na ddywed air gwaradwyddus wrtho, ac na phwysa arno trwy ei gymell i yfed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help