Y Salmau 61 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 61I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

1Clyw, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.

2O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.

3Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

4Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.

5Canys ti, DDUW, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.

6Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.

7Efe a erys byth gerbron DUW; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.

8Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help