Ecclesiasticus (Sirach) 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 17

1Yr Arglwydd a greodd ddyn o’r ddaear; ac y mae efe yn ei droi ef iddi hi drachefn.

2Efe a roddes iddynt hwy ddyddiau rhifedig, ac amser; ac a roddes iddynt feddiant ar y pethau sy ynddi hi;

3Ac efe a’u gwisgodd hwy â nerth cymwys iddynt, ac a’u gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.

4Efe a roddes ei ofn ef ar bob cnawd, ac iddo ef lywodraethu ar fwystfilod ac ehediaid.

5Derbyniasant rym pum gweithrediad yr Arglwydd; ac efe a rannodd iddynt hwy feddwl yn y chweched lle; ac yn y seithfed, ymadrodd, yn lladmerydd o’i feddyliau ef.

6Cyngor, a thafod, a llygaid, clustiau, a chalon, a roddes efe iddynt hwy i ddeall.

7Hefyd efe a’u llanwodd hwynt â gwybodaeth deall, ac a ddangosodd iddynt dda a drwg.

8Efe a osododd ei olwg ar eu calonnau hwynt, fel y dangosai iddynt fawredd ei weithredoedd.

9Efe a roddes iddynt orfoleddu byth yn ei ryfeddodau ef, fel y mynegent ei weithredoedd ef yn synhwyrol.

10A’r etholedigion a glodforant ei enw sanctaidd ef.

11Efe a roddes hefyd iddynt wybodaeth, a chyfraith y bywyd yn etifeddiaeth iddynt.

12Efe a wnaeth gyfamod tragwyddol â hwynt, ac a ddangosodd ei farnedigaethau iddynt.

13Eu llygaid a welsant fawredd ei ogoniant, a’u clustiau a glywsant ei leferydd gogoneddus ef.

14Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Gochelwch rhag pob peth anghyfiawn: hefyd efe a roes orchymyn i bob un ohonynt am ei gymydog.

15Ni chuddir eu ffyrdd hwy o’i olwg ef; o’i flaen ef y maent hwy bob amser.

16Pob dyn o’i ieuenctid sydd yn pwyso i ddrygioni; ac ni allent hwy wneuthur eu calonnau yn gig, o rai cerrig.

17Oherwydd wrth ddosbarthu cenhedloedd yr holl dir, efe a osododd dywysog ar bob cenedl, ac a gymerodd yr Israel yn rhan iddo ei hun;

18Yr hwn, ac efe yn gyntaf-anedig, y mae efe yn ei faethu ag addysg; ac wrth gyfrannu goleuni cariad, nid yw yn ei yrru ef ymaith.

19Am hynny eu holl weithredoedd hwynt sy fel yr haul ger ei fron ef; ac y mae ei lygaid ef yn wastadol ar eu ffyrdd hwynt.

20Nid yw eu hanghyfiawnder hwynt guddiedig rhagddo; eithr y mae eu holl bechodau hwynt ger ei fron ef.

21Eithr yr Arglwydd, am ei fod yn ddaionus, ac yn adnabod yr hyn a luniodd efe ei hun, nis gadawodd hwynt, ac ni pheidiodd â’u harbed.

22Elusennau gŵr sydd megis sêl gydag ef: ac efe a geidw gymwynas dyn fel cannwyll llygad, gan rannu edifeirwch i’w feibion a’i ferched ef.

23Wedi hynny efe a gyfyd, ac a dâl iddynt hwy; ie, eu taledigaeth a dâl efe ar eu pennau.

24Eto efe a roddes i’r edifeiriol ddychweliad, ac a gysurodd y rhai a adawsent amynedd.

25Tro gan hynny at yr Arglwydd, a gad dy bechodau: gweddïa o’i flaen ef, a gwna lai o fai.

26Dychwel at y Goruchaf, a thro oddi wrth anghyfiawnder: oherwydd efe a’th arwain di o dywyllwch i oleuni iachawdwriaeth: casâ hefyd ffieidd-dra yn ddirfawr.

27Pwy a folianna’r Goruchaf yn y bedd, yn lle y rhai sydd yn byw, ac yn rhoddi mawl?

28Darfu mawl gan y marw, megis gan un heb fod: yr hwn sydd yn fyw, ac yn iach ei galon, a foliana’r Arglwydd.

29Mor fawr yw trugarred ein Harglwydd Dduw, a’i dosturi i’r rhai sy’n troi ato ef yn sanctaidd!

30Canys ni all pob peth fod mewn dynion, am nad yw mab dyn yn anfarwol.

31Pa beth disgleiriach na’r haul? ac y mae diffyg ar hwn felly dyn, yr hwn sydd yn meddwl yn ôl cig a gwaed:

32Y mae efe yn ystyried nerth uchder y nefoedd; eithr daear a lludw yw pob dyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help