Y Salmau 37 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 37Salm Dafydd.

1Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.

2Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.

3Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.

4Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.

5Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben.

6Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd.

7Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

8Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.

9Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir.

10Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.

11Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.

12Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.

13Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.

15Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.

16Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.

17Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.

18Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.

21Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.

23Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.

25Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara.

26Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.

27Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.

28Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.

29Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.

30Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.

31Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.

32Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.

34Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.

35Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.

36Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.

37Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

38Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

39A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help