Y Salmau 50 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 50Salm Asaff.

1 DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.

2Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW.

3Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.

4Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.

5Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.

6A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.

7Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi.

8Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

9Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau.

10Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

11Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.

12Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi.

13A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?

14Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:

15A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.

16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?

17Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.

18Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.

19Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.

20Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.

22Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.

23Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help