Haggai 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd,

2Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,

3Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?

4Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:

5Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.

6Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear, a’r môr, a’r sychdir;

7Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd.

8Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd.

9Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.

10Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

11Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,

12Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara, neu â’r cawl, neu â’r gwin, neu â’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.

13A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.

14Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno, yn aflan.

15Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o’r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD;

16Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn, ugain a fyddai yno.

17Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

18Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD.

19A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a’r pomgranad, a’r pren olewydd, ni ffrwythasant: o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.

20A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis, gan ddywedyd,

21Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear;

22A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a’r rhai a eisteddant ynddynt; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.

23Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y’th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y’th wnaf fel sêl: canys mi a’th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help