II Esdras 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 1

1Ail lyfr y proffwyd Esdras, fab Saraias, fab Asareias, fab Helchias, fab Sadanias, fab Sadoc, fab Achitob,

2Fab Achia, fab Phinees, fab Heli, fab Amareias, fab Asiei, fab Marimoth, fab Arna, fab Oseias, fab Borith, fab Abisei, fab Phinees, fab Eleasar,

3Fab Aaron, o lwyth Lefi; yr hwn a fu gaeth yng ngwlad y Mediaid, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin y Persiaid.

4A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

5Dos ymaith, a mynega i’m pobl eu pechodau, ac i’w plant eu hanwireddau a wnaethant i’m herbyn, fel y mynegont i blant eu plant:

6Am i bechodau eu tadau hwynt amlhau ynddynt hwy: canys hwy a’m gollyngasant dros gof, ac a offrymasant i dduwiau dieithr.

7Onid myfi a’u dug hwynt o dir yr Aifft, o dŷ’r caethiwed? er hynny hwynt-hwy a’m hanogasant i ddigofaint, ac a ddiystyrasant fy nghynghorion.

8Tyn wallt dy ben, a bwrw’r holl ddrygioni arnynt hwy; o achos ni buant ufudd i’m cyfraith, ond pobl wrthryfelgar ydynt.

9Pa hyd y cyd-ddygaf â’r rhai y gwneuthum gymaint o ddaioni erddynt?

10Llawer o frenhinoedd a ddifethais i er eu mwyn hwy: Pharo a’i weision, a’i holl lu, a drewais i lawr.

11Yr holl genhedloedd a ddifethais i o’u blaen hwynt; ac yn y dwyrain yr anrheithiais bobl dwy dalaith, sef Tyrus a Sidon, ac a leddais eu holl elynion hwynt.

12Llefara dithau wrthynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd;

13Mi a’ch arweiniais chwi trwy’r môr, ac a roddais i chwi heol eang a diogel o’r dechreuad: mi a roddais i chwi Moses yn dywysog, ac Aaron yn offeiriad:

14Rhoddais i chwi oleuni mewn colofn o dân, a rhyfeddodau mawrion a wneuthum yn eich plith: er hynny chwi a’m gollyngasoch i dros gof, medd yr Arglwydd.

15Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Y soflieir oedd yn arwydd i chwi; rhoddais i chwi bebyll yn amddiffyn: eto grwgnach a wnaethoch ynddynt.

16Ac nid ymlawenhasoch yn fy enw i am ddinistr eich gelynion, ond grwgnach yn wastad yr ydych, hyd y dydd heddiw.

17Mae’r daioni a wneuthum i chwi? Oni waeddasoch chwi arnaf, pan oeddech newynog a sychedig yn yr anialwch,

18Gan ddywedyd, Paham y dygaist ti ni i’r anialwch hwn i’n lladd? gwell a fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.

19Y pryd hynny y tosturiais wrth eich galar, a rhoddais i chwi fanna i’w fwyta: ac felly y bwytasoch fara angylion.

20Pan oedd syched arnoch, oni holltais y graig, a’r dwfr a ddylifodd i’ch diwallu chwi? ac mi a’ch cysgodais rhag y gwres â dail y coed.

21Rhennais yn eich plith wlad ffrwythlon, a bwriais allan o’ch blaen chwi y Canaaneaid, y Pheresiaid, a’r Philistiaid: beth mwy a wnaf eroch, medd yr Arglwydd?

22Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Pan oeddech yn yr anialwch, wrth ddwfr chwerw’r Amoriaid, yn sychedig, ac yn cablu fy enw;

23Ni roddais i chwi dân am eich cabl, ond bwrw pren a wneuthum i’r dwfr, a gwneuthur yr afon yn groyw.

24Pa beth a wnaf i ti, Jacob? tydi Jwda, nid ufuddheit i mi: mi a droaf at genhedloedd eraill, ac a roddaf iddynt hwy fy enw, fel y cadwont fy nghyfreithiau.

25Gan i chwi fy ngwrthod, minnau a’ch gwrthodaf chwithau: pan ddymunoch arnaf fod yn drugarog wrthych, ni thrugarhaf wrthych.

26Pan alwoch arnaf, ni’ch gwrandawaf chwi: canys chwi a halogasoch eich dwylo â gwaed, a’ch traed sy gyflym i ladd celain.

27Nid myfi a wrthodasoch chwi, ond eich hunain, medd yr Arglwydd.

28Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Oni ddeisyfais arnoch, fel y deisyf tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei rhai bychain,

29Fod ohonoch yn bobl i mi, a minnau yn Dduw i chwithau; fod ohonoch yn blant i mi, a minnau yn dad i chwithau?

30Mi a’ch cesglais chwi ynghyd, megis y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd: ond yn awr beth a wnaf i chwi? mi a’ch bwriaf allan o’m golwg.

31Pan offrymoch i mi, mi a droaf fy wyneb oddi wrthych: canys mi a wrthodais eich gwyliau arbennig, eich lleuadau newydd, a’ch enwaediadau.

32Danfonais atoch fy ngwasanaethwyr y proffwydi, y rhai a ddaliasoch ac a laddasoch, a drylliasoch eu cyrff hwynt yn ddarnau: eu gwaed hwy a ofynnaf fi ar eich dwylo chwi, medd yr Arglwydd.

33Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Eich tŷ chwi sydd yn anghyfannedd: mi a’ch bwriaf chwi allan, fel y gwna’r gwynt y sofl.

34A’ch plant ni chenhedlant: canys fy ngorchymyn i a ddiystyrasant, a’r hyn oedd ddrwg ger fy mron i a wnaethant.

35Eich tai a roddaf i’r bobl a ddêl: y rhai, er na chlywsant sôn amdanaf, eto a gredant ynof fi; i’r rhai ni ddangosais arwyddion, er hynny hwy a wnânt yr hyn a orchmynnais iddynt:

36Ni welsant broffwydi, er hynny hwy a gofiant eu pechodau, ac a’u cyffesant.

37Yn dyst yr wyf yn galw gras y bobl a ddaw, y rhai y gorfoledda eu plant mewn llawenydd: ac er na’m gwelant i â’u llygaid corfforol, eto yn yr ysbryd hwy a gredant y peth yr wyf fi yn ei ddywedyd.

38Ac yn awr, frawd, ystyr pa ogoniant; a gwêl y bobl sydd yn dyfod o’r dwyrain:

39I’r rhai y rhoddaf i’w harwain Abraham, Isaac, a Jacob, Oseas, Amos, a Micheas, Joel, Abdias, a Jonas,

40Nahum, ac Abacuc, Soffonias, Aggeus, Sachareias, a Malachi, yr hwn a elwir hefyd Angel yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help