Ecclesiasticus (Sirach) 29 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 29

1Yr hwn sy drugarog, sydd yn rhoddi echwyn i’w gymydog; a’r hwn sydd yn cadarnhau ei law ef, sydd yn cadw’r gorchmynion.

2Dod echwyn i’th gymydog yr amser y byddo rhaid iddo; a thâl drachefn i’th gymydog mewn amser.

3Cadw dy air, a gwna yn ffyddlon ag ef, a thi a gei wrth dy raid bob amser.

4Llawer a gyfrifasant echwyn fel peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i’r rhai a’u helpiasant hwy.

5Y mae efe yn cusanu ei law ef, hyd oni dderbynio; ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymydog: ond yn amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd ateb hwyrfrydig, ac a wna esgus o’r amser.

6Ac os dichon efe, prin y caiff efe yr hanner, ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael ar y ffordd: os amgen, efe a’i difuddiodd o’i arian, ac a’i cafodd ef yn elyn heb achos: efe a dâl iddo felltithion a difenwad; efe a dâl iddo amarch yn lle anrhydedd.

7Llawer oherwydd hynny a nacasant fenthycio am ddrygwaith rhai eraill, gan ofni eu difuddio.

8Er hynny bydd ddioddefgar wrth ŵr tlawd, ac nac oeda dy elusen iddo.

9Cynorthwya’r tlawd er mwyn y gorchymyn, ac na thro ef ymaith yn ei angen.

10Coll dy arian er mwyn cyfaill neu frawd, ac na chuddia hwynt dan garreg i’w colli.

11Gosod dy drysor yn ôl gorchymyn y Goruchaf, ac efe a fydd mwy buddiol i ti nag aur.

12Cae dy elusen yn dy gelloedd; a hi a’th wared di o bob niwed.

13Hi a ymladd drosot ti yn well na tharian gref, ac na gwaywffon gadarn, yn erbyn y gelyn.

14Gŵr da a fechnïa dros ei gymydog; a’r hwn a gollodd gywilydd-dra a’i gad ef.

15Na anghofia garedigrwydd meichiau; oblegid efe a’i rhoddes ei hun drosot ti.

16Pechadur a anrheithia feichiau da ei gyflwr;

17A’r hwn sydd o feddwl anffyddlon, a ad mewn perygl yr hwn a’i gwaredodd ef.

18Mechnïaeth a ddifethodd lawer un goludog, ac a’u siglodd hwynt fel ton y môr: hi a wnaeth i wŷr cedyrn fudo allan o’u tai, fel y crwydrasant ymysg cenhedloedd dieithr.

19Y pechadur a droseddo orchmynion yr Arglwydd, a syrth mewn mechnïaeth; a’r hwn a ddilyn achosion rhai eraill er gwobr, a syrth mewn cyfraith.

20Cynorthwya dy gymydog yn ôl dy allu; a gwylia arnat dy hun rhag syrthio ohonot.

21Y peth pennaf o fywyd dyn, yw dwfr, a bara, a dillad, a thŷ yn gorchuddio gwarth.

22Gwell yw bywyd y tlawd mewn bwth gwael, na gwleddau danteithiol mewn tŷ un arall.

23Am fawr a bychan bydd fodlon, ac ni chei di glywed edliw dy dŷ.

24Bywyd drwg yw myned o dŷ i dŷ: lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy enau.

25Ti a letyi, ac a ddiodi rai anniolchgar, ac a gei glywed chwerwder hefyd.

26Tyred, ymdeithydd, gwna’r bwrdd yn drefnus; ac od oes dim gennyt, dod i mi fwyd.

27Tyred allan, ymdeithydd, o flaen yr anrhydeddus: y mae yn rhaid i mi wrth fy nhŷ, y mae fy mrawd yn lletya gyda mi.

28Trwm yw hyn i’r hwn sy ganddo synnwyr; edliw y tŷ, a gwaradwyddo y benthyciwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help