1Y brenin mawr Artacsercses at y penaethiaid a’r tywysogion ar gant a saith ar hugain o daleithiau, o India hyd Ethiopia, ac at ein deiliaid ffyddlon, yn anfon annerch:
2Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwyr da, a aethant yn falchach,
3Ac ydynt yn ceisio nid yn unig ddrygu ein deiliaid ni, eithr hefyd, am na fedrant fyw mewn digonedd, y maent yn ceisio dychymyg niwed yn erbyn y rhai a wna ddaioni iddynt:
4Ac y maent nid yn unig yn tynnu diolchgarwch o blith dynion, eithr hefyd gan ymddyrchafu mewn balchder rhai heb wybod oddi wrth ddaioni, y maent yn amcanu dianc oddi wrth farn Duw, yr hwn sydd yn gweled pob peth, a’i farn yn gas ganddi ddrygioni.
5Llawer gwaith hefyd y mae geiriau teg y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am lywodraethu materion eu cyfeillion, yn gwneuthur llawer o’r rhai sy mewn awdurdod yn euog o waed gwirion, ac yn eu hamgylchu mewn blinderau diymadferth;
6Trwy ffalster a thwyll eu dull drygionus, yn twyllo diniweidra a daioni penaethiaid.
7A hyn a ellwch chwi ei weled, fel yr eglurhasom ni, nid yn gymaint o’r hen historïau, ag y gellwch, os chwiliwch pa bethau a wnaed yn ddrygionus yn hwyr, trwy ymddygiad echryslon y rhai o osodwyd mewn awdurdod yn annheilwng.
8Ac y mae yn rhaid edrych am yr amser a fydd, fel y gwnelom y deyrnas yn ddidrallod ac yn heddychol i bob dyn;
9Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy’n dyfod mewn golwg, trwy achub blaen pethau bob amser yn llarieiddiach.
10Oherwydd Aman, Macedoniad, mab Amadatha, yr hwn mewn gwirionedd oedd estron i waed y Persiaid, a phell oddi wrth ein daioni ni, ac wedi ei dderbyn gennym ni fel gŵr dieithr,
11A gafodd yr addfwynder sy gennym ni i bob cenedl, yn gymaint ag y gelwid ef yn dad i ni, a’i addoli gan bawb megis yr ail i’r orseddfa frenhinol:
12Am na fedrai efe ddwyn ei fawr barch, efe a geisiodd ein diddymu ni o’r llywodraeth, ac o’n heinioes hefyd:
13Ac a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus, yr hwn a’n hachubodd ni, ac ym mhob peth a wnaeth ddaioni, ac Esther ddifai, yr hon sy gyfrannog o’r deyrnas, ynghyd â’i holl genedl.
14Oblegid fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn unig, a dwyn llywodraeth y Persiaid i’r Macedoniaid.
15Eithr yr ydym ni yn cael bod yr Iddewon, y rhai a roddasai’r dinistrydd hwnnw i’w difetha, yn ddiniwed drwg, ac yn arfer cyfreithiau o’r cyfiawnaf,
16Ac yn blant i’r Duw byw goruchaf a mwyaf, yr hwn a gyfarwyddodd y deyrnas i ni, ac i’n rhieni, mewn trefn odiaeth.
17Am hynny da y gwnewch, os chwi ni chyflawnwch y llythyrau a anfonodd Aman mab Amadatha atoch chwi.
18Oherwydd efe, yr hwn a wnaeth hyn, a grogwyd, ynghyd â’i holl dylwyth, o flaen pyrth Susa, trwy fod Duw, llywydd pob peth, yn talu iddo yn fuan farn addas.
19Eithr gan osod allan gopi o’r llythyr hwn ym mhob lle, gadewch i’r Iddewon arfer eu cyfraith mewn rhyddid.
20A chynorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd ar ddeg o Adar, y deuddegfed mis, ar yr un dydd, ddial ar y rhai a osododd arnynt hwy yn amser eu cystudd.
21Oblegid Duw, llywydd pob peth, yn lle dinistr y genedl etholedig, a wnaeth iddynt lawenydd.
22Cedwch chwithau hwn gyda phob llawenydd yn ddydd uchel, ymysg eich uchel wyliau;
23Fel y byddo iachawdwriaeth yn awr, ac wedi hyn, i ni, ac i’r Persiaid da eu hewyllys, a choffadwriaeth dinistr i’r rhai sy’n cynllwyn i’n herbyn.
24A phob dinas a gwlad bynnag yr hon ni wnelo fel hyn, a lwyr ddifethir â gwaywffyn ac â thân, mewn llid; fel y gosoder hi byth nid yn unig yn ddisathr gan ddynion, eithr yn atgasaf gan fwystfilod ac adar, bob amser.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.