Job 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda DUW?

3Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.

4Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?

5Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.

6Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.

7Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.

8Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.

9Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.

10Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.

11Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.

12Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?

13Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.

14Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?

15I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr.

16Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.

17Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.

18Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder.

19Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?

20Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.

21Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.

22Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol.

23Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.

24Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?

25A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.

26Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth.

27Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:

28Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.

29Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?

30Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;

31Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant.

32Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.

33Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.

34Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:

35Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help