Lefiticus 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

2Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig.

3A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

4Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:

5Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

6A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

7Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

8Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich sancteiddydd.

9Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.

10A’r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig.

11A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

12Am y gŵr a orweddo ynghyd â’i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

13A’r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

14Y gŵr a gymero wraig a’i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.

15A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

16A’r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

17A’r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

18A’r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.

19Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi-blant.

21A’r gŵr a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di-blant fyddant.

22Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo’r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.

23Ac na rodiwch yn neddfau’r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.

24Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi, yr hwn a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill.

25Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a’r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i’w gyfrif yn aflan.

26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr ARGLWYDD ydwyf sanctaidd, ac a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

27Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help