2 Cronicl 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ DDUW, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.

2Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.

3Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.

4A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch.

5A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny.

6Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd.

7A’r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr ARGLWYDD i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.

8A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd.

9A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn.

10Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr ARGLWYDD gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.

11A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:

12Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.

13Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;

14Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help