1Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.
2A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,
3Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt dan wadnau ei draed ef.
4Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy NUW a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
5Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW; megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i.
6Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
7A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr ARGLWYDD heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.
8A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.
9Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i.
10Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.
11A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.
12A’r ARGLWYDD a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
13A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.
14Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.
15Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;
16Heb law pen-swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.
17A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.
18Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.