1Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.
2A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,
3Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.
4Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a DUW oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.
5Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno.
6Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.
7Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.
8A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi.
9A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:
10Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.
11Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth?
12Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?
13Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.
14Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;
15Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;
16Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.
17Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.
18Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd.
19Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.
20Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid?
21Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?
22Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?
23Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd DUW arno?
24Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.
25Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.
26Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
