Judith 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 15

1A phan glywsant hwy, y rhai oedd yn y pebyll, hwy a synasant oherwydd y weithred.

2Ac ofn a dychryn a syrthiodd arnynt, fel nad oedd neb mwyach a allai aros yn wyneb ei gilydd, eithr yn wasgaredig y ffoesant o unfryd i holl ffyrdd y gwastadedd a’r mynydd-dir.

3A’r rhai a wersyllasant yn y mynyddoedd o amgylch Bethulia a ffoesant. Yna meibion Israel, sef pob rhyfelwr ohonynt, a ruthrasant arnynt hwy.

4Yna Oseias a anfonodd i Bethomasthem, ac i Bebai, ac i Chobai, ac i Chola, ac i holl derfynau Israel, rai i fynegi iddynt yr hyn a ddarfuasai, ac i beri iddynt hwy oll ruthro ar y gelynion, i’w difetha hwynt.

5A phan glybu meibion Israel, hwy a ruthrasant oll o unfryd i’w herbyn hwynt hyd Choba. Felly hefyd y rhai a ddaethai o Jerwsalem, ac o’r holl fynydd-dir, (canys rhai a fynegasai iddynt hwy yr hyn a wnaethid yng ngwersyll eu gelynion,) a’r rhai oedd yn Galaad, ac yn Galilea, a’u hymlidiasant hwynt â phla mawr, nes iddynt fyned heibio i Damascus a’i hardaloedd.

6A’r rhan arall, y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a ruthrasant i wersyll yr Asyriaid, ac a’u hysbeiliasant hwy, ac a ymgyfoethogasant yn ddirfawr.

7A meibion Israel, y rhai a ddychwelasant o’r lladdedigaeth, a berchenogasant y gweddill: a’r trefydd a’r dinasoedd, y rhai oedd yn y mynydddir, ac yn y dyffryndir, a gawsant anrhaith fawr: canys eu lliaws oedd fawr iawn.

8Yna Joacim yr archoffeiriad, a henuriaid meibion Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, a ddaethant i edrych y daioni a wnaethai Duw i Israel, ac i gael gweled Judith, ac i ymddiddan yn heddychlon â hi.

9A phan ddaethant hwy ati, hwy a’i bendithiasant hi o unfryd, ac a ddywedasant wrthi, Ti yw dyrchafiad Jerwsalem; ti yw mawr ogoniant Israel; ti yw mawr barch ein cenedl ni;

10Canys ti a wnaethost hyn oll â’th law; ti a wnaethost ddaioni ag Israel: a Duw sy fodlon iddynt. Bendigedig fyddych di gan yr hollalluog Arglwydd byth yn dragywydd. A’r holl bobl a ddywedasant, Felly y byddo.

11A’r bobl a ysbeiliasant y gwersyll dros ddeng niwrnod ar hugain. A hwy a roddasant i Judith babell Oloffernes, a’i holl lestri arian, a’r gwelyau, a’r cawgiau, a’i holl ddodrefn ef: a hi a’u cymerth hwynt, ac a’u gosododd ar ei mul, ac a baratôdd ei menni, ac a’u llwythodd arnynt.

12Yna holl wragedd Israel a redasant ynghyd i’w gweled hi, ac a’i bendithiasant, ac a wnaethant ddawns yn eu mysg eu hunain iddi hi: a hi a gymerodd ganghennau yn ei dwylo, ac a’u rhoddes hefyd i’r gwragedd oedd gyda hi.

13Hwythau hefyd a’i coronasant hi ag olewydd, a’r hon oedd gyda hi: a hi a aeth o flaen yr holl bobl mewn dawns, gan arwain yr holl wragedd: a holl wŷr Israel a ganlynasant yn arfog, â choronau ac â chaniadau yn eu geneuau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help