Y Pregethwr 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:

2Gŵr y rhoddodd DUW iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a DUW heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

3Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.

4Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch.

5Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

6Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb?

7Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.

8Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

9Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.

10Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

11Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?

12Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help