1Ar fyrder o amser yn ôl hyn, Lysias goruchwyliwr y brenin, a’i gâr, yr hwn hefyd oedd lywydd ar ei faterion ef, a gymerth ddigofaint mawr am y pethau a wnaethid.
2Ac wedi iddo gasglu ynghyd ynghylch pedwar ugain mil, a’r holl wŷr meirch, efe a ddaeth yn erbyn yr Iddewon, â’i fryd ar wneuthur y ddinas yn breswylfa i’r Groegwyr;
3A gwneuthur elw o’r deml, fel o gapelau eraill y Cenhedloedd, ac ar osod ar werth yr archoffeiriadaeth bob blwyddyn:
4Heb feddwl dim am allu Duw, ond yn ynfyd yn ei feddwl oherwydd ei fyrddiwn o wŷr traed, a’i filoedd o wŷr meirch, a’i bedwar ugain eliffant.
5Felly efe a ddaeth i Jwdea, ac a nesaodd at Bethsura, yr hon ydoedd dref gadarn o fewn pum ystad i Jerwsalem, ac a’i blinodd hi.
6Ond pan glybu y rhai oedd gyda Macabeus warchae ohono ef ar yr amddiffynfeydd, hwy a’r holl bobl trwy lefain a dagrau a weddiasant ar Dduw, ar iddo ef ddanfon angel da i waredu Israel.
7Yna Macabeus, gan gymryd arfau yn gyntaf ei hunan, a gysurodd eraill i gyd-ddwyn y perygl ag ef i helpu eu brodyr: felly hwy a ruthrasant gyda hwynt yn ewyllysgar.
8Ac fel yr oeddynt gerllaw Jerwsalem, fe ymddangosodd iddynt o’u blaen ŵr ar farch, mewn gwisg wen, yn ysgwyd ei arfau euraid.
9Yna pawb ohonynt a gydogoneddodd y trugarog Dduw, ac a gymerasant galonnau grymus, fel yr oeddynt barod i ymladd, nid yn unig â gwŷr, ond hefyd â’r anifeiliaid gwylltaf, ac i drywanu y muriau heyrn.
10Felly hwy a aethant rhagddynt mewn byddin, â helpwr o’r nefoedd ganddynt: oblegid yr Arglwydd a gymerasai drugaredd arnynt.
11A than ruthro ar eu gelynion megis llewod, hwy a laddasant un fil ar ddeg o wŷr traed, a mil a chwe chant o wŷr meirch, ac a yrasant y lleill oll i ffo.
12Llawer ohonynt wedi eu clwyfo a ddianghasant yn noethion: a Lysias ei hun a ffoes trwy gywilydd, ac felly a ddihangodd.
13Ac fel nad oedd efe yn ŵr angall, gan feddylied ynddo ei hun pa golled a gawsai, a chan gydsynied fod yr Hebreaid heb allel eu gorfod, am fod yr hollalluog Dduw yn eu helpu hwy, efe a ddanfonodd atynt,
14Ac a’u perswadiodd hwy i gytuno i bob peth rhesymol, ac a addawodd am hynny y deuai efe, ac y gyrrai y brenin i fod yn ffafrus iddynt.
15Yna Macabeus a gytunodd i bob peth a ddeisyfodd Lysias, gan ofalu am y budd cyffredinol: a pha beth bynnag a sgrifennodd Macabeus at Lysias dros yr Iddewon, hynny a ganiataodd y brenin.
16Oblegid yr oedd llythyrau wedi eu hysgrifennu at yr Iddewon oddi wrth Lysias fel hyn: Lysias yn anfon annerch at bobl yr Iddewon:
17Ioan ac Absalom, y rhai a yrrwyd oddi wrthych, a roddasant ataf fi yr ateb sgrifenedig, ac a ddymunasant arnaf fi gyflawni y pethau yr oedd hwnnw yn eu harwyddocáu.
18Am hynny pa bethau bynnag ydoedd raid eu hadrodd i’r brenin, mi a’u mynegais hwy, a pha beth bynnag a fai gyffelybol ei wneuthur, efe a’i caniataodd.
19Am hynny os cedwch chwi yr ewyllys da hwn, yn y materion hyn, ie, yn ôl hyn hefyd, mi a wnaf egni ar fod yn achos o ddaioni i chwi.
20Ond am y pethau hyn oll ar eu pennau, mi a rois orchymyn i’r rhain, ac i’m cenhadau innau, i gydymddiddan â chwi.
21Byddwch iach. Y ganfed a’r wythfed flwyddyn a deugain, y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis Dioscorinthius.
22Ond llythyr y brenin ydoedd fel hyn: Antiochus frenin yn danfon annerch at ei frawd Lysias:
23Wedi i’n tad ni ymadael oddi yma at y duwiau, ein hewyllys ni yw bod preswylwyr ein teyrnas yn ddigyffro, fel y gallo pawb ofalu am yr eiddo ei hun.
24Yn gymaint ag i ni glywed i’r Iddewon, y rhai ni chytunent â’r cyfnewidiad a wnaethai fy nhad yn ôl arfer y Groegwyr, ond oedd well ganddynt eu harfer eu hun, fod yn dymuno caniatáu iddynt fyw yn ôl eu cyfreithiau eu hun.
25O achos hynny ein hewyllys ni yw, cael o’r genedl yma fod yn ddiderfysg: ac ni a roesom ein bryd ar edfryd iddynt eu teml, fel y gallont fyw yn ôl arferau eu hynafiaid.
26O achos hynny da y gwnei os danfoni atynt, a rhoi dy ddeheulaw iddynt, megis pan wypont ein meddwl ni, y byddont gysurus, ac y gallont drin yn hyfryd eu materion eu hun.
27Ac fel hyn yr oedd llythyr y brenin at genedl yr Iddewon: Antiochus frenin, at y cyngor, ac at yr Iddewon eraill, sydd yn danfon annerch:
28Os iach ydych, ein dymuniant yw; iach ydym ninnau hefyd.
29Menelaus a ddangosodd i ni, fod eich deisyfiad chwi i droi adref, ac i drin eich materion eich hun.
30Am hynny y sawl a ymadawant, a gânt addewid ffyddlon, trwy ddiofalwch hyd y degfed dydd ar hugain o fis Csanthicus:
31Fel y gallo’r Iddewon fwynhau eu bwydydd eu hunain a’u cyfreithiau, megis o’r blaen, ac na chaffo neb ohonynt flinder am bethau a wnelid yn amryfus.
32Ac mi a yrrais hefyd Menelaus i’ch cysuro chwi.
33Byddwch iach. Y ganfed a’r wythfed flwyddyn a deugain, a’r pymthegfed dydd o fis Csanthicus.
34Danfon hefyd a wnaeth y Rhufeinwyr lythyr atynt, yn cynnwys y geiriau hyn: Cwintus Memmius, Titus Manlius, cenhadau y Rhufeinwyr, at bobl yr Iddewon, sydd yn danfon annerch:
35Y pethau a ganiataodd Lysias carwr y brenin i chwi, yr ydym ninnau hefyd yn eu caniatáu.
36Eithr am y pethau y mae efe yn barnu eu bod i’w rhoi ar y brenin, gyrrwch yn fuan ryw un i ystyried y pethau hyn, fel y gallom ni fynegi y modd a fyddo addas i chwi: canys yr ydym ni yn myned i Antiochia.
37Am hynny brysiwch, a gyrrwch ryw rai, fel y gallom wybod eich meddwl.
38Byddwch iach. Y ganfed a’r wythfed flwyddyn a deugain, a’r pymthegfed dydd o fis Csanthicus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.