Hosea 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.

2Ac y mae gan yr ARGLWYDD gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

3Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda DUW.

4Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;

5Sef ARGLWYDD DDUW y lluoedd: yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.

6Tro dithau at dy DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.

7Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.

8A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.

9A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.

10Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.

11A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.

12Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

13A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef.

14Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help