1Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
2Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
3Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
4Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
5Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
6Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
7Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
8Ein porth ni sydd yn enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
