Eseciel 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn eu herbyn;

3A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd.

4Eich allorau hefyd a ddifwynir, a’ch haul-ddelwau a ddryllir: a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod.

5A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a’r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul-ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd.

7Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

8Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd.

9A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â’u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â’u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd-dra.

10A chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.

11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Taro â’th law, a chur â’th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd-dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant.

12Y pellennig a fydd farw o’r haint, a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt.

13A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod.

14Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help