1Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd!
2Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW byw.
3Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW.
4Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela.
5Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon:
6Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau.
7Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron DUW yn Seion.
8O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela.
9O DDUW ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.
10Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.
11Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD DDUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
12O ARGLWYDD y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
