Jeremeia 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,

2Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.

3Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;

4O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

5Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, sef trugaredd a thosturi.

6A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.

7Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.

8Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.

9Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

10A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW?

11Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;

12A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;

13Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.

14Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:

15Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.

16Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr ARGLWYDD, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

17Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.

18Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd; ie, â’u ffieidd-dra y llanwasant fy etifeddiaeth.

19O ARGLWYDD, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.

20A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?

21Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help