Eseia 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Canys yr ARGLWYDD a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain: a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.

2Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.

3A bydd, yn y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo,

4I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur?

5Yr ARGLWYDD a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr.

6Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.

7Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd.

8Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn.

9Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd.

10Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?

11Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant.

12Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd!

13Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd;

14Dringaf yn uwch na’r cymylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf.

15Er hynny i uffern y’th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.

16Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff, ac a’th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?

17A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?

18Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:

19Eithr tydi a fwriwyd allan o’th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.

20Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a’th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.

21Darperwch laddfa i’w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.

22Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr ARGLWYDD:

23Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd ARGLWYDD y lluoedd.

24Tyngodd ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif;

25Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.

26Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.

27Oherwydd ARGLWYDD y lluoedd a’i bwriadodd, a phwy a’i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a’i try yn ôl?

28Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.

29Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.

30A chynblant y tlodion a ymborthant, a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.

31Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef.

32A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o’r ARGLWYDD Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help