1Doethineb y gostyngedig a ddyrchaif ei ben ef, ac a’i gesyd ef ymysg pendefigion.
2Na chanmol ŵr wrth ei bryd, ac na ffieiddia ef wrth yr olwg arno.
3Bechan ymysg yr ehediaid yw’r wenynen; a phen-melystra yw ei ffrwyth hi.
4Na orfoledda oherwydd gwisg o ddillad, ac na ymddyrcha yn amser anrhydedd: oblegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a’i weithredoedd ef ydynt ddirgel i ddynion.
5Llawer teyrn a eisteddodd ar lawr; a’r hwn ni thybiai un, a wisgodd y goron.
6Llawer cadarn a amharchwyd yn ddirfawr; a’r anrhydeddus a roddwyd i ddwylo eraill.
7Nac achwyn cyn chwilio’r gwirionedd: myn wybod yn gyntaf, ac yna beia.
8Na farna cyn clywed; ac na fwrw air ymysg ymadroddion rhai eraill.
9Nac ymryson am y peth nid yw yn perthyn i ti; ac na chydeistedd ym marn pechaduriaid.
10Fy mab, na ymyrr ar lawer o bethau: oherwydd os trini lawer peth, ni byddi difai: os dilyni, ni oddiweddi; ac os ffoi, ni ddihengi.
11Y mae a lafuria, ac a boena, ac a frysia, ac o hynny y mae yn fwy ei eisiau ef.
12Y mae un anniben, ac arno eisiau help, yn fychan ei nerth, ac yn fawr ei dlodi; a golwg yr Arglwydd a edrychodd arno ef er daioni, ac a’i dyrchafodd ef o’i waelder;
13Ac efe a ddyrchafodd ei ben ef o drueni; a llawer, pan welsant, a fu ryfedd ganddynt o’i blegid ef.
14Da a drwg, einioes ac angau, tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y maent.
15Oddi wrth yr Arglwydd y mae doethineb, a chyfarwyddyd, a gwybodaeth ei gyfraith ef: oddi wrtho ef y mae cariad, a ffyrdd gweithredoedd da.
16Cyfeiliorni a thywyllwch a gydgrewyd â phechaduriaid: a drygioni a heneiddia yn y rhai sy’n gorfoleddu mewn drygioni.
17Rhodd yr Arglwydd a erys gyda’r duwiol; a’i ewyllys da ef a bair ffynnu byth.
18Y mae dyn yn cyfoethogi trwy ei gallineb a’i grintachrwydd; a dyna ei ran ef o’i gyflog.
19Lle y dywed efe, Mi a gefais esmwythdra, ac yn awr mi a fwytâf o’m da bob amser; ac eto ni ŵyr efe pa amser a â heibio iddo ef, ac y gedy efe hwynt i arall, ac y bydd efe marw.
20Saf di yn dy gyfamod, ac ymddiddan yn hwnnw, a heneiddia yn dy waith.
21Na fydded rhyfedd gennyt am waith pechadur; creda i’r Arglwydd, ac aros yn dy boen: oblegid hawdd yw yng ngolwg yr Arglwydd yn ddisymwth ddiatreg gyfoethogi’r tlawd.
22Bendith yr Arglwydd sydd gyflog i’r duwiol; ac mewn awr fuan y gwna efe i’w fendith ef darddu.
23Na ddywed, Pa les i mi ryngu bodd? a pha ddaioni fydd i mi bellach?
24Na ddywed, Y mae gennyf fi ddigon, ac y mae gennyf lawer, a pha niwed a gaf fi yn fy mywyd bellach?
25Yn amser daioni yr ydys yn gollwng drygfyd dros gof, ac yn amser drygfyd nid ydys yn coffáu daioni;
26Am fod yn hawdd o flaen yr Arglwydd dalu i ddyn yn ei ddydd diwedd yn ôl ei weithredoedd.
27Cystudd awr a wna anghofio danteithion; a diwedd dyn a ddatguddia ei weithredoedd ef.
28Na chyfrif neb yn ddedwydd cyn ei farw; ac wrth ei blant yr adwaenir gŵr.
29Na ddwg bob dyn i’th dŷ: oherwydd aml yw cynllwyn diafol.
30Fel petris wedi eu dal mewn rhwyd, felly y mae calon y balch; ac fel gwyliedydd yn dringo i le y caffo efe gwymp:
31Oblegid y mae efe yn cynllwyn, gan droi y da yn ddrwg; ac efe a fwrw fai arnat mewn pethau canmoladwy.
32O wreichionen fechan y daw llawer o farwor; a dyn pechadurus a gynllwyn am waed.
33Gochel ddrygddyn; oblegid drygioni y mae efe yn ei lunio: rhag iddo roddi arnat ti anaf byth.
34Derbyn ddieithrddyn i dŷ, ac efe a’th dralloda di, ac a’th yrr o’r eiddot dy hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.