Numeri 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wŷr:

2A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, pendefigion y gymanfa, gwŷr enwog.

3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr ARGLWYDD yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr ARGLWYDD?

4A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr ARGLWYDD yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato.

6Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a’i holl gynulleidfa, thuserau;

7A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth yfory gerbron yr ARGLWYDD: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.

8A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi.

9Ai bychan gennych neilltuo o DDUW Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr ARGLWYDD, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?

10Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny.

13Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni?

14Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim.

15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr ARGLWYDD, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy: ni chymerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un ohonynt.

16A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr ARGLWYDD, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory.

17A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr ARGLWYDD, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser.

18A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.

19Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa

20A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt ar unwaith.

22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O DDUW, DUW ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.

23A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd.

24Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.

25A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.

26Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i.

30Ond os yr ARGLWYDD a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr ARGLWYDD.

31A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy.

32Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth.

33A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.

34A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau.

35Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr ARGLWYDD, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl-darth.

36A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

37Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:

38Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr ARGLWYDD; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor:

40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth gerbron yr ARGLWYDD; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses wrtho ef.

41A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr ARGLWYDD.

42A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD.

43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD; dechreuodd y pla.

47A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl.

48Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd.

49A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora.

50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help