1Yr hwn sydd yn caru ei fab a’i mynych ffrewylla ef, fel y caffo lawenydd ohono ef yn y diwedd.
2Yr hwn a ddysgo ei fab, a gaiff lawenydd ohono, ac a orfoledda o’i achos ef ymysg ei gydnabod.
3Yr hwn sydd yn dysgu ei fab, a ddigia ei elynion; ac a orfoledda o’i blegid ef o flaen ei gyfeillion.
4Er marw ei dad ef, eto y mae efe megis heb farw; am adael ohono ef ar ei ôl un cyffelyb iddo ei hun.
5Yn ei fywyd efe a’i gwelodd ef, ac a fu lawen o’i blegid: ac yn ei ddiwedd ni bu efe athrist.
6Efe a adawodd un i ddial yn erbyn ei elynion, ac un i dalu diolch i’w gyfeillion.
7Yr hwn sydd yn mawrhau gormod ar ei fab, a rwym ei archollion ef, ac ar bob bloedd fe gythryblir ei ymysgaroedd ef.
8March heb ei ddofi a â yn bengaled; a mab a adawer iddo ei hun a â yn anllywodraethus.
9Llocha dy fab, ac efe a’th ddychryna di: chwarae ag ef, ac efe a’th dristâ di.
10Na chyd-chwardd ag ef rhag gofidio ohonot gydag ef, a gwasgu dy ddannedd yn y diwedd.
11Na ddod iddo ryddid yn ei ieuenctid, ac nac edrych heibio i’w anwybodaeth.
12Gostwng ei war ef yn ei ieuenctid, a chur ei ystlys tra fyddo efe blentyn, rhag iddo fyned yn bengaled, ac anufuddhau i ti, a bod yn ofid i’th galon.
13Addysga dy fab, a chymer boen gydag ef, fel na byddo ei anweddeidd-dra ef yn dramgwydd i ti.
14Gwell yw’r tlawd iach a chryf, na’r cyfoethog clwyfus ei gorff.
15Iechyd a chyfansoddiad da sydd well na phob aur; a chorff cryf na golud anfeidrol.
16Nid oes gyfoeth gwell na iechyd corff: ac nid oes llawenydd gwell na llawenydd calon.
17Gwell yw marwolaeth nag einioes chwerw, neu nychdod parhaus.
18Danteithion wedi eu tywallt ar safn gaead, sy fel seigiau o fwyd wedi eu gosod ar fedd.
19Pa fudd a wna’r offrwm i eilun? oblegid ni fwyty efe, ac ni arogla: felly y mae yr hwn a erlidir gan yr Arglwydd.
20Y mae efe yn gweled â’i lygaid, ac yn tuchan fel disbaidd yn cofleidio morwyn, ac yn ucheneidio.
21Na ddod dy enaid i dristwch; ac na chystuddia dydi dy hun yn dy gyngor dy hun.
22Llawenydd calon yw einioes dyn, a gorfoledd gŵr sydd yn estyn ei ddyddiau ef.
23Hoffa dy enaid dy hun, a chysura dy galon; a gyr dristwch ymhell oddi wrthyt: oblegid tristwch a laddodd lawer, ac nid oes fudd ynddo.
24Cenfigen a dig sydd yn lleihau dyddiau; a gofal sydd yn dwyn henaint cyn yr amser.
25Calon hoyw a da, a ofala am ei bwyd a’i lluniaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
