Mathew 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun.

2Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.

3Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.

4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

5Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ.

7Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun.

8A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.

9Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef.

10A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion.

11A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid?

12A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion.

13Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

14Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

15A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.

16Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth.

17Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.

18Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.

19A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion.

20(Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef:

21Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf.

22Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.)

23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu,

24Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef.

25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llances a gyfododd.

26A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.

27A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym.

28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.

29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.

30A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.

31Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.

32Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig.

33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.

34Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.

35A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

36A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.

37Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:

38Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help